Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Chwefror 2019
Amser:
13.50 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5269
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Jonathan Hopkins, Llywodraeth Cymru Marion Stapleton, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone AC.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Marion Stapleton, Dirprwy Gyfarwyddwr y Tîm Strategaeth Gwasanaethau Trawsbynciol, a Jonathan Hopkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru fel rhan o’u hymchwiliad i gaffael cyhoeddus.
3.2 Cytunodd Andrew Slade i roi gwybod i’r Pwyllgor am unrhyw gostau na ellir eu hadennill ar gyfer creu a chynnal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gan gynnwys yr holl gyngor a gafwyd a’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chostau TG a staff.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar nifer fach o ddiwygiadau a fydd yn cael eu rhannu drwy e-bost.
7.1 Nododd yr Aelodau yr adroddiad, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar 19 Chwefror, gan nodi y bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ei drafod.